Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 1 Rhagfyr 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 11:47 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Angela Burns Jocelyn Davies Keith Davies Suzy Davies Julie Morgan Lynne Neagle Jenny Rathbone Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Gregg Jones Arwyn Watkins, Chair, National Training Federation Wales Rachel Searle, National Training Federation Wales Iestyn Davies, Federation of Small Business Joyce M’Caw, Chief Executive, Careers Wales (North East Wales) Steve Hole, Senior Manager, Careers Wales, Mid Glamorgan & Powys |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion Ewropeaidd
2.1 Cafodd y Pwyllgor y newyddion diweddaraf am faterion Ewropeaidd sy’n effeithio ar bortffolio’r Pwyllgor.
Camau i’w cymryd:
· Y Gwasanaeth Ymchwil i roi rhagor o wybodaeth am yr ystadegau am bobl ifanc nad oedd mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn 2010.
· Y Gwasanaeth Ymchwil i roi rhagor o wybodaeth am gydweithio traws-Ewropeaidd i atal masnachu mewn plant.
· Y Gwasanaeth Ymchwil i roi rhagor o wybodaeth am arfer gorau yn Ewrop ar y ddarpariaeth o sgiliau peirianyddol (gan gynnwys dysgu yn seiliedig ar waith).
3. Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: sesiwn dystiolaeth
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau y tystion am weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
Camau i’w cymryd:
· Cytunodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i roi rhagor o wybodaeth am pa mor aml y caiff eu haelodau eu gwahodd i ymuno â phwyllgorau cynllunio Rhwydweithiau 14-19 ac i gyfrannu at gynllunio’r ddarpariaeth 14-19 yn ardal y Rhwydwaith.
4. Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: sesiwn dystiolaeth
4.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau y tystion am weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
Camau i’w cymryd:
· Cytunodd Gyrfa Cymru i gytuno i wirio a yw ysgolion dwy ffrwd yn wynebu anawsterau i gynnig yr ystod lawn o ddewisiadau.
· Cytunodd Gyrfa Cymru i roi’r ffigurau o gyflogwyr mewn sesiynau yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer Cymru gyfan ac hefyd i roi rhai enghreifftiau o brospectysau cyffredin.
· Cytunodd Gyrfa Cymru i roi gwybodaeth am y gwaith y mae Prifysgol Warwick yn ei wneud i ddiweddaru gwefan Gyrfaoedd Cymru gyda gwybodaeth am y farchnad lafur.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
5.1 Cytunodd yr Aelodau ar gynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6. Trafod y flaenraglen waith
6.1 Trafododd yr Aelodau yr amserlen ddrafft ar gyfer tymor y Gwanwyn.
7. Papurau i'w nodi
7.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.